Rhif y ddeiseb: P-06-1321

Teitl y ddeiseb: Diogelu canolfannau hamdden a phyllau nofio rhag gorfod cau yn ystod yr argyfwng ynni presennol

Geiriad y ddeiseb: Mae pyllau nofio a chanolfannau hamdden ledled y wlad dan fygythiad wrth i’r argyfwng ynni effeithio ar gymunedau ledled y genedl.    Mae’r cyfleusterau hyn yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl Cymru ac maent yn hanfodol i lesiant y wlad.

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Senedd a Llywodraeth Cymru i gydnabod pa mor fregus yw sefyllfa pyllau nofio drwy ddarparu pecyn o gymorth ariannol wedi’i neilltuo y tu hwnt i’r Setliad Terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol i sicrhau bod pyllau nofio’n gallu aros ar agor.

 

Rhagor o fanylion

Mae 40 y cant o ardaloedd cyngor mewn perygl o golli eu canolfan(nau) hamdden neu o weld llai o wasanaethau yn eu canolfan(nau) hamdden cyn 31 Mawrth 2023.

Mae tri chwarter (74 y cant) o ardaloedd cyngor wedi’u nodi’n ‘anniogel’, sy’n golygu bod perygl y bydd canolfannau hamdden yn cau a/neu yn cynnig llai o wasanaethau cyn 31 Mawrth 2024. (data gan UK Active: https://www.ukactive.com/news/forty-per-cent-of-council-areas-at-risk-of-leisure-centre-and-swimming-pool-closures-and-restrictions-before-april-without-immediate-support/

 

Mae 61 y cant o blant yn ysgolion cynradd Cymru am gael mwy o gyfleoedd i nofio (Arolwg gan Chwaraeon Cymru o chwaraeon mewn ysgolion yn 2022)

 

Dim ond 42 y cant o blant ym mlynyddoedd 3-6 yng Nghymru sy’n gallu nofio 25m heb gymorth (Ffynhonnell: Archwiliad o ddarparwyr gan Nofio Cymru, 2022)

 

Mae Cyngor Powys yn bwriadu defnyddio arian wrth gefn i gadw pyllau ar agor (https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-64010393)

 

Mae 80 y cant o aelodau Community Leisure UK mewn sefyllfa fregus yn ariannol (https://communityleisureuk.org/news/sos-plea-to-chancellor/)

 

Mae 234,000 o oedolion yng Nghymru am gael mwy o gyfleoedd i nofio (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021).

 

 

 


1.        Y cefndir

Ym mis Medi 2022 cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun a oedd yn cynnig cymorth gyda biliau ynni i fusnesau a defnyddwyr ynni annomestig eraill (gan gynnwys elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus fel ysgolion). Roedd hyn yn dilyn cynllun ar gyfer cartrefi yn y DU a gyhoeddwyd yn gynharach yn y mis.

Ar ôl y cynllun 6 mis cychwynnol hwn, dywedodd y Llywodraeth y byddai’n darparu cymorth penodol parhaus i ddiwydiannau bregus. Cynhaliwyd adolygiad dri mis ar ôl i'r cynllun ddechrau, i ystyried ble y dylid canolbwyntio arno yn hyn o beth.

Mae cynllun wedi’i gwtgoi, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2023,, ac y disgwylir iddo ddechrau ym mis Ebrill, wedi arwain at bryderon bod cau canolfannau hamdden ar raddfa eang wedi’i ohirio, ond nid ei osgoi. O fis Ebrill 2023, bydd llai o gymorth ar gael, er bod rhai sectorau, gan gynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd a safleoedd hanesyddol, yn cael cymorth ychwanegol.

Dywedodd UK Active, sy’n cynrychioli campfeydd a chanolfannau hamdden, y bydd yn achosi rhagor o gyfyngiadau ar wasanaethau, cau lleoliadau, a cholli swyddi.

 

2.     Camau gweithredu Senedd Cymru ac ymateb Llywodraeth Cymru

2.1.          “Byddai’n drasiedi pe baem yn colli’r pyllau nofio lle rydym yn dysgu ein plant i nofio ac yn cynnig ymarfer corff hygyrch i’r rhai sydd ei angen.”

Ym mis Tachwedd 2022 cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol adroddiad ar effaith costau cynyddol ar ddiwylliant a chwaraeon.

Yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd Andrew Howard o Gymdeithas Chwaraeon Cymru wrth y Pwyllgor fod gweithredwyr pyllau nofio, sy’n wynebu cynnydd mewn galw ar ôl i’r pandemig darfu ar wersi nofio, yn gostwng tymheredd y dŵr er mwyn arbed arian. Ychwanegodd fod un o’i aelodau yn amau a fyddai pyllau nofio yn dal i fodoli yn ei ardal yn y 12 mis nesaf.

Disgrifiodd hefyd y sefyllfa arbennig o anodd sy’n wynebu pyllau nofio, sydd â biliau ynni uchel, ac sydd wedi wynebu problemau eraill, fel costau cynyddol cemegau glanhau.

Unwaith y byddant wedi cau, mae costau ailagor cyfleusterau hamdden yn helaeth. Eglurodd Cymdeithas Chwaraeon Cymru fod angen buddsoddiad sylweddol i ailgychwyn pympiau, gwresogyddion a phrofion halogiad, ac felly dywedodd, os bydd costau cynyddol yn arwain at gau lleoliadau hamdden cyhoeddus a phreifat, rydym yn rhagweld ei bod yn annhebygol y byddant yn ailagor.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor y “Byddai’n drasiedi pe baem yn colli’r pyllau nofio lle rydym yn dysgu ein plant i nofio ac yn cynnig ymarfer corff hygyrch i’r rhai sydd ei angen.”

2.2.        Galw am gyllid ychwanegol wedi’i dargedu ar gyfer cyrff sydd â “dyfodol cynaliadwy y tu hwnt i’r argyfwng presennol”.

Dywedodd Cyngor y Celfyddydau wrth y Pwyllgor Diwylliant: “Mae’r argyfwng sy’n wynebu’r sector erbyn hyn yr un mor fawr ag unrhyw beth a welsom yn y ddwy flynedd diwethaf”. Galwodd am fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa gwerth £5-10 miliwn, ar gyfer y celfyddydau yn unig, “a fydd yn helpu i sefydlogi cwmnïau mewn cyfnod tyngedfennol”.

Cytunodd y Pwyllgor, ac argymellodd y dylai Llywodraeth Cymru “roi cyllid ychwanegol wedi’i dargedu i’r sectorau chwaraeon a diwylliant i helpu lleoliadau a sefydliadau sy’n wynebu’r posibilrwydd o orfod cau ond sydd â dyfodol cynaliadwy y tu hwnt i’r argyfwng uniongyrchol.” Fel arall, roedd yn teimlo y byddai’r £140 miliwn a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru i gadw’r sectorau hyn i fynd yn ystod y pandemig yn cael ei wastraffu.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn. Yn ei hymateb tynnodd sylw at £3.75 miliwn ychwanegol ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23 i helpu gydag “effeithiau aruthrol chwyddiant ar gostau cyfleustodau a chostau byw cyrff hyd braich a sefydliadau yn y sector lleol”. Nid yw’r cyllid ychwanegol hwn wedi arwain at gyllid wedi’i dargedu i helpu sefydliadau i oroesi’r cyfnod o gostau uwch, fel y galwodd Cyngor y Celfyddydau a’r Pwyllgor amdano.

Mae cyllideb ddrafft 2023-24 yn cynnwys rhagor o gyllid refeniw o rhwng 3 a 7 y cant ar gyfer cyrff diwylliant a chwaraeon a ariennir gan Lywodraeth Cymru (yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yw’r unig gorff i weld ei gyllid yn cael ei dorri). Mae’n ymddangos y bydd chwyddiant, sy’n 10.5 y cant ar hyn o bryd, yn erydu’r enillion cymedrol hyn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon nad yw cyllid ychwanegol yn ymarferol, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud popeth o fewn ei gallu i geisio sicrhau bod y sefydliadau hyn yn cael eu cefnogi’n effeithiol. Roedd hi eisoes wedi gwrthod galwad y Pwyllgor i drafod pecyn ariannu diwylliant a chwaraeon brys ar gyfer y DU gyfan gyda Llywodraeth y DU, gan ddweud mai “mater i Lywodraeth y DU yw hwn”.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.